Yn 2014, caewyd Canolfan yr Henoed yng Nglyncorrwg am y tro olaf. Roedd grŵp o bobl leol yn awyddus i sicrhau y byddai’r ganolfan holl bwysig hon – oedd yn tynnu pobl a fyddai fel arall yn teimlo’n unig, at ei gilydd – yn parhau i roi cefnogaeth i bobl o bob oed yn y gymuned. O ganlyniad, cafodd Canolfan Gymunedol Noddfa ei sefydlu, a byth ers hynny mae’r ymddiriedolwyr wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu defnydd o’r ganolfan a sicrhau ei bod ar gael i’r gymuned ehangach trwy ddarparu amrywiaeth o glybiau a gweithgareddau.
Yn gynnar yn 2022, daeth Noddfa at y gronfa gyda chynlluniau i gyflogi Rheolwr Canolfan i gefnogi a hybu eu gweledigaeth ar gyfer Cymuned Glyncorrwg. Cawsant arian gan y People’s Health Trust ar gyfer y swydd hon, ac roeddem ninnau’n falch o gyfrannu £22,500. Ers hynny, mae’r Rheolwr wedi treulio amser yn datblygu perthynas gyda’r gymuned leol, rhanddeiliaid a sefydliadau cymunedol eraill, gan arwain at gynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy’n gwneud defnydd rheolaidd o’r adeilad, tra ar yr un pryd yn gyfrifol am redeg y ganolfan gymunedol o ddydd i ddydd.
Cyflwynodd Noddfa gais pellach am arian i barhau’r rôl, a chan gydnabod bod cael rhywun yn y swydd wedi arwain at ragor o ymgysylltiad cymunedol, ysgafnhau’r baich ar yr ymddiriedolwyr gwirfoddol, cynyddu’r defnyddwyr, a chynhyrchu mwy o incwm, roedd Pen y Cymoedd yn fwy na hapus i barhau i’w cefnogi. Dyfarnwyd £45,000 i Noddfa i’w galluogi i dalu am y penodiad dros y 3 blynedd nesaf, ac ategir hyn gan yr incwm a enillir gan y ganolfan.
“Mae Canolfan Gymunedol Noddfa yn adeilad cymunedol poblogaidd a phrysur, a gwelwyd tua 7,000 yn gwneud defnydd ohono yn 2024 yn unig. Maent yn cynnig ystod eang o weithgareddau yn y lleoliad – yn amrywio o Glybiau Ieuenctid i Grŵp Henoed, ac o ddarpariaeth Dechrau Da i ddosbarthiadau Cymraeg – ac yn parhau i chwilio am ddulliau o sicrhau bod ganddynt weithgareddau sy’n addas i bawb yn y gymuned. Rydyn ni fel Cronfa’n cydnabod pwysigrwydd adeiladau cymunedol allweddol, a phwysigrwydd eu Rheolwr wrth sicrhau bod y sefydliad hwn yn gallu ymateb i anghenion eu cymuned, ac rydym yn falch o allu eu cefnogi am y 3 blynedd nesaf.” – Shayla Walsh, Swyddog Cefnogi’r Gronfa – Cymuned.
“Mae Canolfan Gymunedol Noddfa yn darparu hýb pwysig ar gyfer trigolion lleol Glyncorrwg a’r pentrefi cyfagos. Rydym wrth ein bodd yn derbyn grant 3-blynedd o Ben y Cymoedd, sy’n darparu £45,000 tuag at gostau rhedeg y Ganolfan. Mae Terri Camplin, Rheolwr y Ganolfan, wedi cydweithio’n agos gyda’n haelodau a defnyddwyr y Ganolfan i gynyddu’r defnydd a wneir o’r lleoliad drwy ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd ar gyfer grŵp ehangach o bobl. Mae’r arian hwn yn golygu y gall Terri barhau â’i gwaith da am y tair blynedd nesaf, gan alluogi’r Ganolfan i ddarparu ar gyfer mwy o bobl leol, eu teuluoedd a’u ffrindiau, tra ar yr un pryd yn gostwng unigrwydd a chynyddu cyflogaeth a chyfleoedd mewn bywyd. Diolch, Pen y Cymoedd, am y cymorth angenrheidiol hwn ac am gredu yn y Ganolfan a’r hyn y gallwn ei gyflawni.” – Canolfan Gymunedol Noddfa