Ers 6 blynedd, mae’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol (yng Nghastell-nedd ac Afan) ac Interlink RhCT (yng nghymoedd Rhondda a Chynon) fel ei gilydd, wedi bod yn cefnogi cymunedau lleol yn ardal y gronfa. Maent wedi cynnig cymorth pwrpasol, ac rydym bellach wedi cytuno i gynnig cyfraniad o £80,856 i Interlink RhCT am y tair blynedd nesaf.
Bellach, mae Interlink RhCT yn ffocysu’r cymorth yn yr ardal ar gyflwyno rhagor o hyfforddiant a digwyddiadau cymunedol/ar gyfer grwpiau, a’r rhain – ynghyd â’r gweithdai rhannu gwybodaeth maent yn eu cynnal – sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer ein hymgeiswyr ac i ninnau gael budd o rannu arfer gorau, cydweithredu gydag asiantaethau a chyllidwyr eraill, a chefnogi cymunedau mewn modd mwy rhagweithiol.
Mae’r cymorth maent yn ei gynnig yn amhrisiadwy; fel cronfa rydym wedi ymrwymo i adael gwaddol go iawn ar ddiwedd y cyfnod cyllido, ac i wneud hynny mae arnom angen i gymunedau gael cefnogaeth er mwyn gwella eu gwytnwch a’u cynaliadwyedd, ac i wneud y gorau o’r arian sydd ar gael trwy ddatblygu cynlluniau uchelgeisiol sydd wedi cael eu hystyried yn ofalus – ac mae Interlink RhCT a’u tîm anhygoel yn elfen allweddol yn y gwaith o ddarparu’r cymorth hwn. Rydym wrth ein bodd o gael parhau ein perthynas gyda hwy.
“Rydym wedi cael llawer o bleser yn gweithio gyda Thîm Pen y Cymoedd i gefnogi’r holl grwpiau lleol gweithredol sy’n gwneud gwaith anhygoel yn ardal y gronfa. Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda hyd yn oed rhagor o grwpiau, a gweithio gyda’r Tîm a’n partneriaid eraill dros y tair blynedd nesaf.” – Julie Edwards, Interlink