Derbyniodd GTFM grant i osod 5 trosglwyddydd radio digidol yn ardal cronfa Pen y Cymoedd.
Nodau’r prosiect yw hwyluso – mewn dull cynaliadwy – y dasg o symud GTFM a gwasanaethau cymunedol eraill i’r cyfrwng radio digidol, cyflwyno darpariaeth signal fwy cyflawn i RhCT, a defnyddio manteision radio digidol (DAB) i ddarlledu 20 neu ragor o orsafoedd ar yr un pryd, gan roi dewis eang o orsafoedd radio yn ardal ddarlledu’r Cymoedd.
Cefnogwyd y prosiect hwn oherwydd bod GTFM (fel Rhondda Radio) yn chwarae rôl bwysig mewn hysbysebu’n lleol, rhoi cyfleoedd i gymunedau rannu gwybodaeth, cyfleoedd i bobl sy’n dymuno cael gyrfa ym maes y cyfryngau, a llu o gyfleoedd i wirfoddoli.
Yn ogystal â GTFM, rydym wedi bod yn falch o gefnogi Rhondda Radio 106.1FM + 97.5FM wrth iddynt wneud cais am drwydded FM lawn a dechrau darlledu yn y Rhondda Fach.
Peidiwch ag anghofio dilyn a chefnogi’r gorsafoedd lleol gwych hyn!