Dyfarnu £21,243.85 i Glwb Rygbi Treherbert ar gyfer eu prosiect ‘Sport goes green’!

647 513 rctadmin

Sefydlwyd Clwb Rygbi Treherbert bron i 150 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n llawn hanes mwyngloddio. Mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol er budd y gymuned leol ac mae yng nghanol Tynewydd ym mhen uchaf cwm Rhondda. Eu prif nod yw annog a chynyddu cymryd rhan mewn rygbi yn ward Treherbert, ac mae ganddynt amrywiaeth o dimau o bobl hŷn i   ieuenctid, menywod i blant gyda chyfanswm o 140 o bobl yn wythnosol. Mae’r clwb yn adeilad cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ac yn  rheolaidd gan tua 350 o bobl, gan gynnwys eu haelodau.

Gwnaeth Clwb Rygbi Treherbert gais i’r gronfa ar gyfer eu prosiect ‘Sport goes green’ i gwblhau atgyweiriadau i’w to a gosod paneli solar i helpu i leihau costau ynni. Fe wnaethon nhw, ynghyd â nifer o adeiladau cymunedol eraill ledled yr ardal fuddiant, elwa o arolwg adeilad/archwiliad ynni fel rhan o gynllun a gynhaliwyd gan PyC, ac ers hynny maent wedi gweithio’n galed i wneud newidiadau i wneud y clwb yn fwy ynni-effeithlon ac mae’r prosiect hwn yn barhad o hynny.

Sut mae hyn yn bodloni blaenoriaethau’r gronfa?

  • Adeiladau sy’n cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy
  • Gwneud y cymoedd yn ardal ynni-effeithlon, defnydd isel o ran ynni
  • Adeiladau a gofodau addas at y diben
  • Darparu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy a thrafnidiaeth i grwpiau o bob oed i fodloni dibyniaeth gan y gymuned

“Mae’r clwb hwn yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned, ac i gynnal yr effaith a gawn, rhaid torri costau a’n defnydd o ynni. Am y rheswm hwn, rydym yn hapus i fod wedi derbyn cyllid gan Ben y Cymoedd tuag at baneli solar a storfa batri. Mae tîm PyC wedi bod o gymorth mawr, ac roedd y cais yn syml” – Rowley Pryse, Clwb Rygbi Treherbert.

“Rydym yn ymroddedig i helpu adeiladau cymunedol i ddod yn fwy ynni-effeithlon ac fel cronfa rydym yn cydnabod pwysigrwydd sefydliadau cymunedol fel Clwb Rygbi Treherbert. Mae eu clwb yn ganolbwynt i’w gweithgareddau a chaiff ei ddefnyddio’n dda gan eu haelodau, yn ogystal â’r gymuned leol. Rydym wrth ein bodd yn gallu eu cefnogi gyda’r prosiect hwn i sicrhau bod y mudiad yn gallu parhau i gefnogi eu haelodau a’r gymuned am flynyddoedd i ddod” – Shayla, Swyddog Cymorth y Gronfa – Cymuned, Pen y Cymoedd