Rôl Newydd Shayla

923 695 rctadmin

Ymunodd Shayla â’r gronfa yn 2021, a bellach mae ei rôl wedi newid i fod yn Swyddog Cefnogi’r Gronfa dros y Gymuned. Mae Shayla wedi dangos ei bod yn angerddol dros weithio gyda’r gymuned a’r trydydd sector, a bydd yn darparu cyngor ac arweiniad o’r radd flaenaf, yn arwain ar reoli grantiau bychan i grwpiau cymunedol, ac yn rhoi cymorth i’r Cyfarwyddwr Gweithredol gyda cheisiadau cymunedol mwy o faint. Rydym yn sicr y bydd Shayla yn parhau i ffynnu, ac mae hithau’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i gael budd o’r gronfa, ac i sicrhau bod y gronfa’n cael yr effaith fwyaf posibl.