Mae Guy yn ymuno â ni fel Rheolwr Cyllid a Chronfa, gyda ffocws ar redeg y gronfa a chefnogi mentrau sy’n gwneud cais am gymorth. Mae gan Guy flynyddoedd o brofiad yn cefnogi’r trydydd sector, ynghyd ag angerdd dros ddatblygu cymunedol yn gyffredinol, ac mae’n edrych ymlaen at ymuno â’r gronfa. Bydd Kate, Holly a Shayla yn aros yn eu swyddi, ac edrychwn ymlaen at weld pawb yn cwrdd â Guy yn fuan.
“Rydw i wrth fy modd yn ymuno â’r tîm fel y Rheolwr Cyllid a Chronfa, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau a grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau trawsffurfiadol fydd yn gwneud gwahaniaeth.”– Guy Smith