Afan Lodge
Heddiw, gallwn ni gadarnhau fod ein proses ymgynghori gyda’r staff yn Afan Lodge wedi dod i ben.
Nid oes ateb ymarferol wedi ei chanfod i achub y busnes fel y mae’n gweithredu ar hyn o bryd, ac felly, bydd Afan Lodge yn cau i’r cyhoedd ar Ddydd Sul 3ydd Tachwedd. Diwrnod olaf masnachu swyddogol y busnes bydd Dydd Mawrth 5ed Tachwedd.
Byddwn yn parhau i gynnal sgyrsiau gyda phrynwyr posib ar gyfer yr ased. Bydd y broses yn cymryd tipyn o amser i’w chwblhau. Fe wnawn ni eich diweddaru yma ynghylch canlyniad y sgyrsiau hyn.
Rydyn ni eisiau diolch i’n staff arbennig, y cyfarwyddwyr a’n cwsmeriaid am gefnogi Afan Lodge dros y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni’n drist i weld Afan Lodge yn cau, ond rydyn ni’n obeithiol am ei dyfodol gyda pherchennog newydd.
Os oes gennych chi gwestiynau, gofynnwn yn garedig i chi ein ebostio ni drwy: enquiries@penycymoeddcic.cymru
Dylai pob ymholiad gan y wasg gael eu danfon at Rhian Richards, Cowshed Communications rhian.richards@wearecowshed.co.uk