Fe wnaethom gefnogi Valleys Kids i ddechrau gyda grant mawr i sefydlu a chefnogi eu menter gymdeithasol anhygoel The Play Yard yn ôl yn 2019. Mae’r cyfleuster hwnnw bellach yn ased lleol sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ac sy’n cael ei werthfawrogi. Fel pob elusen, mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i Valleys Kids gyda’r pandemig, yr argyfwng costau byw a ffactorau eraill sy’n golygu bod y galw am eu gwasanaethau yn uwch nag erioed ond mae cyfleoedd ariannu yn anos dod o hyd iddynt.
Daethant at y gronfa i helpu i sicrhau dyfodol tymor byr Canolfan Gymunedol a Theuluol Penyrenglyn wrth iddynt ddatblygu cynlluniau i drawsnewid y lleoliad presennol yn ganolbwynt llesiant blaenllaw ar gyfer y Rhondda Fawr, yn enwedig ardaloedd Treherbert, Treorci a Phentre. Mae hyn yn cynnwys adleoli’r Tîm Teuluoedd i’w galluogi i ganolbwyntio mwy ar gyflawni, ymateb ac adeiladu ar berthnasoedd cymunedol presennol a dechrau gweithio’n agosach gydag ysgolion lleol i barhau ac ehangu’r cymorth a gynigir i’r plant a’r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw.
“Dyma enghraifft dda o sut y gall cyllid PyC ffitio’n hyblyg i roi amser a lle i sefydliadau ddatblygu cynlluniau a ffrydiau ariannu tymor hwy. Mae Valleys Kids yn elusen datblygu cymunedol seiliedig ar le sydd, ers 1977, wedi darparu cymorth, cyngor a chyfleoedd hanfodol i bobl o bob oed yn RhCT a chredwn y gall eu gweledigaeth ar gyfer Penyrenglyn gael effaith barhaol ar gymunedau’r gronfa.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Pen y Cymoedd
“Mae Valleys Kids yn ddiolchgar am y gefnogaeth a’r hyder parhaus a ddangoswyd gan Pen y Cymoedd. Wrth weithio gyda’n gilydd gallwn wneud i newid ddigwydd ac mae hyn yn rhan o’r daith.” – Kathryn Edwards, Prif Swyddog Gweithredu, Valleys Kids