Fel rhan o’n hymrwymiad i adnewyddu’r sgiliau a’r profiad ar y Bwrdd rydym yn adnewyddu ein Bwrdd yn rheolaidd gydag aelodau newydd.
Fis Hydref eleni rydym yn llawn cyffro i groesawu aelod newydd, Jamie Smith.
Cafodd Jamie ei eni a’i fagu yng Nghwm Afan a’r cyffiniau ac mae wedi gweithio mewn rolau sy’n ymwneud ag arloesi ac ymchwil ers dros 20 mlynedd, ar draws llywodraeth leol, llywodraeth ganolog a’r trydydd sector. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Arloesi a Phartneriaeth yn Hafod ers 2018, lle mae wedi datblygu ei ddiddordebau mewn cynnwys y gymuned, dylunio gwasanaethau a dadansoddi data. Sefydlodd Jamie Side-by-Side, uned arloesi cymdeithasol ac ymgysylltu cymunedol Hafod, yn 2021. Side-by-Side oedd yr uned gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae wedi denu cyllid sylweddol a diddordeb gan bartneriaid allanol, yn ogystal â sicrhau buddion i gymunedau.
Cyn ei yrfa yn y sectorau hyn, cwblhaodd Jamie PhD mewn gwyddorau daear, a daniodd ei angerdd am newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Rydym yn ffarwelio ac yn diolch i Victoria Bond.
Roedd Victoria yn ychwanegiad cyffrous i’r Bwrdd pan ymunodd yn 2020. Mae Victoria yn Rheolwr Gwastraff Siartredig gyda ffocws ar ailgylchu a rheoli gwastraff cyfoes. Aeth ei gyrfa â hi o’i thref enedigol yn Hirwaun i lefydd fel Awstralia a’r Dwyrain Canol, lle bu’n gweithio i ymgynghoriaethau peirianneg ac amgylcheddol a gwasanaethodd fel aelod bwrdd ar gyfer awdurdod gwastraff llywodraeth Gorllewin Awstralia.
Fel perchennog fferm gyfagos, daeth â chyfoeth o wybodaeth leol, cariad at y cymunedau lleol, ac amrywiaeth o sgiliau i Fwrdd PyC. Gwasanaethodd Victoria hefyd fel cyfarwyddwr Afan Lodge ar gyfer Pen y Cymoedd, gan gynorthwyo yn adferiad ôl-bandemig y sefydliad. Mae gan Victoria gyfleoedd newydd cyffrous yn ei gyrfa nawr ac mae wedi penderfynu camu i ffwrdd o PyC ond rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda hi ac yn dymuno’r gorau iddi.