Pob Plentyn, Pob Cyfle – bydd Dallaglio RugbyWorks mewn ysgolion yng Ferndale ac Aberdâr am y 3 blynedd nesaf, diolch i gyfraniad gwerth £35,500 gan Pen y Cymoedd

1024 1024 rctadmin

Mae Dallaglio RugbyWorks yn ymyriad ym maes rygbi sy’n ffocysu ar sgiliau dwys a datblygu iechyd; eu nod yw help pobl ifanc sy’n wynebu’r nifer mwyaf o rwystrau rhag sicrhau dyfodol positif a chynhyrchiol iddynt eu hunain.

Bydd yr ymyriad yn golygu sesiynau wythnosol, gyda hyfforddwyr RugbyWorks yn mynd i mewn i ysgolion a gweithio gyda grŵp penodol o bobl ifanc. Mae eu gwaith blaenorol wedi dangos mai’r cyfan sydd ei angen ar lawer o’r bobl ifanc hyn yw cael cyfle teg i gyrraedd eu potensial – a dyna mae’r hyfforddwyr yn anelu i’w wneud, waeth beth fo gorffennol neu gefndir y bobl ifanc. Maent yn ymdrechu i sicrhau bod pob person ifanc sy’n cwblhau’r  ymyriad yn iachach yn gorfforol ac yn feddyliol, yn berchen ar gymhwyster ychwanegol, ac wedi datblygu sail gadarn o sgiliau cymdeithasol y gallent wedyn eu defnyddio yn y farchnad gyflogaeth ar ôl gadael yr ysgol.

Sut mae’r prosiect hwn yn cysylltu â blaenoriaethau’r cymunedau a’r gronfa?

  • Cymunedau sy’n iachach ac yn fwy actif.
  • Gellir ymdrin yn lleol â materion iechyd a chymdeithasol lefel-isel – cymorth ataliol neu ymyriad buan. Mae hyn yn cyfrannu at gymunedau gwydn.

“Roeddem eisoes wedi dyfarnu grant Cronfa Micro iddynt, a chan ein bod mor hapus gyda’r gwaith a’r canlyniadau roeddem wrth ein bodd yn cynnig cefnogaeth o’r Gronfa Gweledigaeth i’w cefnogi  i weithio yn Ysgol Gymuned Ferndale a Tŷ Gwyn dros y 3 blynedd nesaf. Maen nhw fel sefydliad yn dod â’u cronfa ariannol sylweddol eu hunain, ac mae ganddynt gynllun clir o ran cyflenwi ac ymgysylltiad; rydyn ni’n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd.

“Rydyn ni yn Dallaglio RugbyWorks wrth ein bodd yn deall y bydd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn parhau i’n cefnogi ni drwy’r  Gronfa Gweledigaeth. Mae’r gefnogaeth barhaus hon yn ein galluogi i gynnal ein hymdrechion gyda rhaglen Dysgu Amgen Tŷ Gwyn ac Ysgol Gymuned Ferndale. Mae ein rhaglen wedi ymrwymo i ffocysu ar bob unigolyn, gan eu helpu i ddatblygu a sicrhau dyfodol positif a chynhyrchiol. Edrychwn ymlaen at gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc dros y tair blynedd nesaf.” – Dan Ley, Dallaglio RugbyWorks