Sefydlwyd Treherbert BGC ym 1935 ac maent yn berchen ar adeilad ger gorsaf drenau Treherbert, sydd ar agor 5 diwrnod yr wythnos gyda thua 180 o ddefnyddwyr rheolaidd. Mae’r adeilad yn rhedeg clwb ieuenctid, pêl-droed dan do a hyfforddiant ac mae hefyd yn ganolfan ar gyfer Autism Life Centres.
Yn ôl yn 2021, cyhoeddodd CBS RhCT gynlluniau i adeiladu cyfleuster 3G ar Gae Baglan ym Mhenyrenglyn, Treherbert. Hwn oedd y 14eg cyfleuster 3G ar gyfer RhCT fel rhan o’u hymrwymiad i gael 3G o fewn radiws o 3 milltir i’r holl drigolion. Mae’r cyfleuster gerllaw Ysgol Gynradd Penyrenglyn ac mae’n darparu cae pêl-droed 3G maint llawn, yn ogystal â thri chae 5 bob ochr. Mae’r cae maint llawn wedi’i raddio i Haen 3, sy’n golygu y gellir chwarae pêl-droed Cynghrair Cymdeithas De Cymru, Cynghrair De Cymru a Chynghrair Adran; tra bydd hefyd yn dod gyda phad sioc rygbi, sy’n golygu y gall timau hefyd hyfforddi yn y cyfleuster.
Agorwyd y 3G gan y rheolwr pêl-droed Rob Page ym mis Tachwedd 2022. Er ei fod yn fan cymunedol, mae Treherbert BGC yn ei ddefnyddio chwe gwaith yr wythnos. Mae mwyafrif y penwythnosau a nosweithiau yn cael eu treulio yno, a dim ond ers symud i’r gofod newydd y mae timau’r clwb wedi gwella. Daethon nhw atom oherwydd bod arnynt angen storfa ac eisteddle, ar ôl codi £20,000 yn flaenorol gyda Chwaraeon Cymru trwy ymgyrch cyllid torfol.
“Rydym yn hapus i gynnig y cyllid fel y gall Treherbert BGC gael mynediad at y cyfleuster hwn, a fydd yn gwella’r lleoliad sydd eisoes yn wych. Mae’r ymgyrch cyllid torfol yn dangos lefel y gefnogaeth gymunedol y mae’r clwb yn ei mwynhau. Rydym yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd hamdden sy’n bodloni gofynion y gymuned.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Pen y Cymoedd
“Ar ran pawb yng nghlwb pêl-droed Trehebert hoffem fynegi ein diolch o galon am eich rhodd hael. Mae eich cefnogaeth wedi chwarae rhan ganolog yn ein helpu i wella ein cyfleusterau.
Mae’r arian yr ydych wedi’i ddarparu yn cael ei ddefnyddio i wella ein maes hyfforddi ar ffurf amddiffyniad ar gyfer ein heisteddle newydd a darparu storfa y mae mawr ei hangen ar gyfer ein swm helaeth o offer, a ddefnyddir gan gannoedd o bobl ifanc ac oedolion. Mae eich haelioni wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n clwb, a thrwy gyfraniadau fel hyn rydym yn parhau i dyfu a datblygu’r cariad at ein clwb pêl-droed o fewn y gymuned.
Unwaith eto, diolch i chi am eich cefnogaeth a’ch cred yn yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni ac edrychwn ymlaen at eich diweddaru ar y cynnydd a wnaed dros yr wythnosau/misoedd nesaf.” – Treherbert BGC