Gyda’r bwriad o sicrhau parhad Clwb Lles a Bowlio Cymunedol Pontrhydyfen, gofynnodd y clwb am arian ar gyfer gwaith helaeth i’r lawnt. Maent am wella cyfleusterau ar gyfer aelodau eu clwb, adeiladu ar y nifer cynyddol o aelodau benywaidd ac ifanc a rhoi cyfleoedd i sefydliadau lleol eraill ddefnyddio’r cyfleusterau.
Ers i’r clwb ddod yn berchen ar y lawnt bum mlynedd yn ôl, bu problemau niferus sydd wedi ei gwneud bron yn amhosibl iddynt gwblhau eu gemau cynghrair a chwpan, cystadlaethau unigol ac ymarferion a ‘sesiynau blasu’, sy’n hanfodol i ddenu aelodau newydd. Bydd y gwaith sydd ei angen yn adnewyddu a thrwsio’r lawnt, yn rhoi system ddyfrhau newydd i mewn ac yn bwysig iawn yn hyfforddi ac uwchsgilio gwirfoddolwyr fel y gallant ofalu am y lawnt i’r safon uchaf am flynyddoedd i ddod.
“Roedd y clwb wedi nodi’n glir y gwaith sydd ei angen, wedi cael cyngor arbenigol ac maent yn diogelu’r dyfodol drwy uwchsgilio eu gwirfoddolwyr. Mae Clwb Bowlio Pontrhydyfen yn uchel ei barch yn y gymuned fowlio ac yn gyfleuster allweddol yn y pentref. Maent wedi mynd yn groes i’r duedd dros y 4 blynedd diwethaf a bron wedi dyblu’r aelodaeth ac maent wedi datblygu eu haelodaeth iau a benywaidd yn fawr. Mae ganddynt gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys adnewyddu ac ailgyflunio adeilad y clwb fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer yr aelodau a’r gymuned mewn llawer o ffyrdd newydd ac i gefnogi gweithgareddau newydd. Byddant hefyd yn datblygu rhywfaint o dir wrth ymyl y clwb i greu gardd gymunedol ac rydym yn falch iawn o allu eu cefnogi” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd
“Ar ran holl aelodau Clwb Lles a Bowlio Cymunedol Pontrhydyfen a’r gymuned gyfan hoffem ddiolch i bawb ym Mhen y Cymoedd am y cyllid i gynorthwyo ein clwb. Mae hyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan bawb ac yn ddi-os bydd yn helpu i sicrhau parhad ein clwb a dod â’n lawnt a’n cyfleusterau i safon uchel i’r gymuned gyfan elwa ohonynt.” Jeff Wilkins, Cadeirydd