Mae grantiau’r Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyflwyno amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol – gall busnesau, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyd ymgeisio. Mae angen i gynigion fod yn eofn, uchelgeisiol ac ychydig bach yn anghyffredin – ac mae’n rhaid eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros yr hir dymor. Mae’r prosiectau diweddaraf sy’n cael eu cefnogi’n amrywio o ŵyl beicio mynydd i brosiect gwella tiroedd Neuadd Eglwys. Wrth gwrs, mae amserlenni’r holl brosiectau hyn wedi eu heffeithio gan COVID 19 ac felly rydym yn dymuno’r gorau iddynt dros y misoedd i ddod wrth i ni i gyd ddod o hyd i normal newydd, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r holl brosiectau hyn.
Mae’r prosiect Afon Cynon, Afon i Bawb yng Nghwm Cynon uchaf yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru. Bydd y dyfarniad o £49,252 yn galluogi’r sefydliad i ennyn diddordeb y cymunedau lleol sy’n byw ar hyd ac yn agos i ddyfroedd gogleddol Afon Cynon (a’i llednentydd fel Afon Dâr) yng ngwerth yr afon. Bydd amrywiaeth o fuddion a deilliannau, ar gyfer cymunedau a chyfranogwyr lleol ac ar gyfer bioamrywiaeth a’r amgylchedd. Bydd Swyddog Prosiect yn sefydlu Grŵp Ceidwaid Afon Cymunedol ac yn gweithio i godi proffil yr afon er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’i phwysigrwydd i ecosystemau lleol a’r rhywogaethau niferus y mae’n gartref iddynt, ac er mwyn iddi gael ei defnyddio’n fwy ar gyfer hamdden ac ymlacio. Dros y tymor hwy maent yn gobeithio y bydd gan y gymuned fwy o deimlad o ‘berchnogaeth’ arni ac y byddant yn cymryd stiwardiaeth ar ddalgylch yr afon.
Ymysg y gweithgareddau a buddion fydd: Ymgyrchoedd codi sbwriel a glanhau’r afon ac ymwybyddiaeth o dipio anghyfreithlon sy’n cynnwys o leiaf 250 o bobl / gweithdai gydag ysgolion cynradd lleol – digwyddiadau ennyn diddordeb yn yr afon, prosiectau llyswennod, gweithdai a gweithgareddau. Byddant yn cydweithio â Salmon and Trout Cymru i hyfforddi’r gymuned leol ar fonitro pryfed afon. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau’n cael ei chynnal i wella ymgysylltu cymunedol a byddant yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau i wirfoddolwyr lleol. Bydd y prosiect yn hybu’r afon fel cyrchfan bysgota i ymwelwyr ac yn gwella ansawdd yr afon a’i gwerth esthetig i’r ardal.
Dechreuodd gwaith adnewyddu ar Neuadd Eglwys Sant Siôr, Cwmparc, dros 5 mlynedd yn ôl gyda nenfwd newydd a newid rhai ffenestri er mwyn gwneud y neuadd yn gynhesach a llawer mwy cost-effeithiol i’w gwresogi. Lleolir y fynedfa i’r eglwys ar fryn serth iawn, sy’n gwneud mynediad yn anodd iawn i’r rhai na allant gerdded yn bell. Mae’r rhai sy’n camu allan o gerbyd y tu allan i’r fynedfa yn gorfod gwneud hynny ar lethr serth. Mae’r neuadd eglwys boblogaidd wedi’i lleoli y tu ôl i’r eglwys, gan olygu bod angen cerdded trwy’r tiroedd i’w chyrraedd. Llwybr pafin yw hwn ond nid yw’n wastad, ac er bod mynedfa ar ochr yr adeilad sy’n agor ar stryd fach, cafodd hwn ei gau flynyddoedd yn ôl oherwydd pryderon iechyd a diogelwch. Bydd y grant o £20,000 gan y Gronfa Gweledigaeth yn cyd-fynd â’r swm o bron £40,000 y maent wedi’i godi i: adfer y rhodfa flaenorol i wella mynediad i Festri’r Eglwys a Neuadd yr Eglwys / sefydlu man parcio a throi bach ger y Neuadd, gan ddarparu nifer bach o leoedd parcio i’r anabl a digon o le i gerbydau droi o gwmpas ar y safle, ac ailadeiladu’r grisiau gyda landins gwell a grisiau a chanllawiau priodol.
Bydd grant o £54,000 i brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Cymuned Ystradfellte a Phontneddfechan yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Tref Glyn-nedd a Chyngor Cymuned Penderyn yn cefnogi Waterfall Country Futures, astudiaeth dichonolrwydd i ymchwilio ac adnabod problemau a chyfleoedd, a dyfeisio a datblygu cynllun strategol ac opsiynau cyflwyno. Mae ardal y sgydau yng nghymoedd Nedd, Cynon a Rhondda uchaf yn dirwedd neilltuol a phrydferth, sydd â llawer o botensial i ddarparu buddion twristiaeth cadarnhaol ar gyfer ei chymunedau a busnesau. Mae’n ardal boblogaidd iawn i ymwelwyr sydd â bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol a threftadaeth ddiwylliannol gyfareddol. Er bod yr ardal yn cynnwys nifer mawr o sgydau atyniadol, yr ardal o gwmpas Pontneddfechan yw’r un sy’n denu’r nifer uchaf o ymwelwyr ar hyn o bryd – ac sy’n cael ei heffeithio fwyaf. Mae’r sgydau mewn cymunedau eraill gerllaw hefyd yn atyniadol ac yn werth ymweld â nhw, ond maent yn gymharol anhysbys ac nid ydynt yn cael eu hybu. Bydd y prosiect hwn yn dod o hyd i ffordd i gymunedau gymryd rhan a mynnu rheolaeth ar faterion megis rheoli ymwelwyr, datblygu gwirfoddolwyr a datblygu economaidd seiliedig ar dwristiaeth – y prosiect hwn yw’r cam cyntaf.
Bydd grant o £16,066 i Sisters of Send yn cefnogi Sisters of Send Weekend, sydd i’w leoli yn Bryn Bettws Lodge, Ton-mawr. A hwythau’n gweithio’n galed yn unigol ers nifer o flynyddoedd i annog mwy o fenywod i ymwneud â beicio mynydd, mae’r 3 menyw y tu ôl i’r ŵyl hon yn cronni eu harbenigedd i gyflwyno gŵyl beicio mynydd 2 ddiwrnod newydd i fenywod. Bydd yr ŵyl, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer haf 2020, bellach yn digwydd ym mis Mai 2021 oherwydd cyfyngiadau’r Coronafeirws. Y bwriad yw y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol. Er iddi gael ei hanelu at feicwyr benywaidd, bydd yr ŵyl yn croesawu’r teulu cyfan i gymryd rhan a chael hwyl. Bydd y grant yn cefnogi’r digwyddiad cychwynnol a’r cynllunio paratoadol. Bydd yn benwythnos llawn dop o hyfforddiant a chyfarwyddyd arbenigol gan feicwyr proffesiynol nodedig, bag aer ar gyfer ymarfer neidio, ioga, ras 4X gwisg ffansi, Crwsâd Llwybr MTB, defnydd o’r llwybrau beicio i gyfranogwyr yr ŵyl yn unig, adloniant i’r teulu a llawer mwy. Bydd pentref y digwyddiad yn cynnwys enwau brand mawr y diwydiant ac yn:
Hybu beicio mynydd i fenywod
Eirioli dros feicio mynydd fel camp hygyrch, cynhwysol a llawn mwynhad sy’n cefnogi llesiant corfforol a meddyliol
Darparu llwyfan a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn i fenywod sy’n feicwyr proffesiynol a chwmnïau a arweinir gan fenywod o fewn y gamp arddangos eu sgiliau a brandiau.
Bydd y digwyddiad yn defnyddio gwasanaethau busnesau lleol yn ogystal ag arddangos Cwm Afan fel cyrchfan dwristiaeth o fri rhyngwladol.