Bwrdd Cyfarwyddwyr

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Directors & Staff

Pryd mae’r Bwrdd yn cyfarfod?

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd ac isod y dyddiadau sydd i ddod:

Wythnos yn dechrau: 24 Medi 2024

Wythnos yn dechrau: 22 Hydref 2024

Wythnos yn dechrau: 25 Tachwedd 2024

Wythnos yn dechrau: 20 Ionawr 2025

Wythnos yn dechrau: 27 Mawrth 2025

Wythnos yn dechrau: 22 Mai 2025

Wythnos yn dechrau: 22 Gorffennaf 2025

Gellir gweld Dyddiadau Cau Ceisiadau yma

Beth mae’r Bwrdd yn ei wneud?

Bwrdd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd sy’n gyfreithiol gyfrifol am sut y bydd yr adnoddau’n cael eu defnyddio, a dyma’r corff sy’n llunio strategaeth i ddwyn dyheadau’r gymuned (fel y’i mynegir yn y Prospectws) yn fyw. Mae’r chwe chyfarwyddwr cychwynnol wedi ysgogi sefydlu’r cwmni a datblygu ei ethos, gwerthoedd, gweithdrefnau a blaenoriaethau cychwynnol. Dros amser mae’r Bwrdd wedi ehangu i wyth aelod. Bydd aelodau’n gwasanaethu telerau tair blynedd i greu cyfle i drosiant a recriwtio egni a syniadau newydd wrth i’r Gronfa aeddfedu.

Cwmni Buddiannau Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd

Rheolir y Gronfa ar ran cymunedau lleol gan Gwmni Buddiannau Cymunedol hollol annibynnol a leolir yn yr ardal leol ac sy’n atebol i’r boblogaeth leol. Mae strwythur y Cwmni Buddiannau Cymunedol a fabwysiadwyd gennym yn golygu mai sicrhau manteision i gymunedau fydd ein prif flaenoriaeth bob amser, a bod y cronfeydd a reolir gennym yn cael eu diogelu gan ‘glo asedau’. Mae hyn yn un o nodweddion allweddol pob Cwmni Buddiannau Cymunedol ac yn sicrhau y bydd ein holl asedau bob amser yn cael eu defnyddio er budd y gymuned – ni waeth beth fydd yn digwydd.

Mae Amcanion y Cwmni a nodir yn ein Herthyglau Cymdeithasu yn rhai syml – maent yn dweud y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cynnal gweithgareddau sydd o fudd i’r Gymuned
  • Goruchwylio cronfa er mwyn sicrhau manteision i’r Gymuned (fel y cytunir arnynt o bryd i’w gilydd gydag ariannwr y Cwmni);
  • Sicrhau bod arian a dderbynnir gan y Cwmni yn dod â manteision hirdymor i’r Gymuned.

Beth mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn ei wneud?

Ar hyn o bryd mae gan y Cwmni wyth Chyfarwyddwr Bwrdd – pob un â chysylltiadau lleol a blynyddoedd o brofiad o ymgysylltu â’r gymuned.

Gyda’i gilydd, maent yn gyfreithiol gyfrifol am y ffordd y caiff yr adnoddau eu rheoli a’u defnyddio, gan sicrhau y caiff y dyheadau cymunedol a nodir yn y Prosbectws eu gwireddu.

Dros amser bydd y Bwrdd yn ehangu i gynnwys hyd at wyth aelod. Mae’r aelodau yn gwasanaethu am gyfnodau o dair blynedd, sy’n sicrhau newidiadau cyson ymhlith yr aelodau a bod egnïon a syniadau newydd yn cael eu recriwtio wrth i’r Gronfa aeddfedu Bydd y broses o recriwtio i’r Bwrdd bob amser yn un agored a thryloyw.

Yr hyn sy’n bwysig i ni – sut y byddwn yn gweithio gyda chi

Gan weithio’n agos gyda chymunedau a sefydliadau lleol, bydd Cyfarwyddwyr Cwmni Buddiannau Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau’r safonau uchaf posibl o stiwardiaeth wrth reoli’r Gronfa. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r hyn sy’n bwysig i ni a sut y byddwn yn gweithio gyda chi.

Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr i gyd yn cytuno i ac yn glynu wrth y Polisi Cod Ymddygiad ar gyfer Cyfarwyddwyr a’r Polisi Gwrthdaro Buddiannau.

Mae’r Cod Ymddygiad yn berthnasol i’r holl ffyrdd y mae Cyfarwyddwyr yn gweithio gyda’i gilydd a gyda staff y CBC, a sut rydym i gyd yn hyrwyddo’r CBC yn allanol. Mae Staff a Chyfarwyddwyr yn gweithio ar y cyd gyda pharch at ei gilydd, ac yn yr un modd gydag unigolion a mudiadau allanol. Ein nod yw ymddwyn mewn ffordd agored a hawdd mynd atom – rydym am fod yn fudiad y gall yr holl fudd-ddeiliaid ymddiried ynddo.

Nod y polisi Gwrthdaro Buddiannau yw diogelu’r CBC, Cyfarwyddwyr a Staff rhag amhriodoldeb ac isafu’r risg y dylanwadwyd yn allanol ar benderfyniadau ariannu mewn unrhyw ffordd. Mae’n rhaid i’r holl Gyfarwyddwyr a Staff gwblhau ffurflenni Datgan Buddiannau pan gânt eu penodi a bob blwyddyn wedi hynny. Gwahoddir Datganiadau Buddiant ar ddechrau pob cyfarfod o’r Bwrdd fel eitem agenda safonol. Gallwch ddarllen y ddwy ddogfen bolisi’n llawn ar ein tudalen Lawrlwythiadau.

Cwrdd â’r Bwrdd a staff presennol

Kate Breeze

Kate Breeze

Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Kate yn darparu pob agwedd ar gymorth cyflawni ac ymgysylltiad cymunedol ar gyfer y gronfa gymunedol ac mae’n gyfrifol am reolaeth o ddydd i ddydd ac arweinyddiaeth strategol. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi gweinyddol am 12 mlynedd ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith yn 2003 ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau cyflogaeth-o redeg ei busnes ei hun i reoli rhaglenni grant mewn sefydliadau addysg uwch. Mae Kate wedi bod gyda phen y Cymoedd ers ei chychwyn ym mis Hydref 2016. Y tu allan i’r gwaith, mae Kate hefyd yn cerdded gyda’i chŵn hyfryd Eric a Cora ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd gyda’r nod o fod yn siaradwr Cymraeg rhugl cyn iddi droi’n 40.

Guy Smith

Rheolwr Cyllid a Chronfa

Yn flaenorol, gweithiodd Guy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain ar a rheoli Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor, sy’n trosglwyddo asedau a gwasanaethau i grwpiau cymunedol i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy. Fel un sy’n angerddol dros ddatblygu cymunedol, a chanddo gefndir cryf ym maes cyllid, mae Guy yn rhoi cefnogaeth i gyllid a chyfrifon tîm Pen y Cymoedd; mae e hefyd yn arwain ar y gwaith rheoli o ddydd i ddydd ac yn cymryd cyfrifoldeb dros y modd rydym yn cefnogi menter yn yr ardal. Mae Guy yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio mewn rôl sydd o fudd uniongyrchol i’r cymunedau sy’n agos at ei gartref.

Guy Smith
Shayla Walsh

Shayla Walsh

Swyddog Cefnogi’r Gronfa: Cymunedol

Ymunodd Shayla â’r gronfa yn 2021, a bellach mae ei rôl wedi newid i fod yn Swyddog Cefnogi’r Gronfa dros y Gymuned. Mae Shayla wedi dangos ei bod yn angerddol dros weithio gyda’r gymuned a’r trydydd sector, a bydd yn darparu cyngor ac arweiniad o’r radd flaenaf, yn arwain ar reoli grantiau bychan i grwpiau cymunedol, ac yn rhoi cymorth i’r Cyfarwyddwr Gweithredol gyda cheisiadau cymunedol mwy o faint. Rydym yn sicr y bydd Shayla yn parhau i ffynnu, ac mae hithau’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i gael budd o’r gronfa, ac i sicrhau bod y gronfa’n cael yr effaith fwyaf posibl

Holly Jones

Swyddog Cymorth Menter a Chyllid

Cyn gweithio i Action for Children a sefydliad cymunedol yn y Rhondda, mae Holly yn swyddog cyllid profiadol ac yn swyddog cymorth busnes. A hithau’n byw yn Nghwm Rhondda mae hi wedi gweld effaith cronfa Pen y Cymoedd ar fusnesau lleol ac yn gyffrous i ddechrau cefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol ar draws ardal y gronfa i sicrhau eu bod yn elwa o’r gronfa.

Holly Jones

Thomas Tudor Jones

Cadeirydd

Mae Thomas yn Uwch Ymgynghorydd Cydymffurfiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n rhoi cyngor ar ofynion cyfreithiol a rheoleiddio ar ystod o faterion cydymffurfio gan gynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Gymraeg. Cyn hynny bu’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys fel Rheolwr Cynorthwyol yn Theatr y Parc a’r Dâr, ac fel Uwch Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth yn gorfforaethol. Tra yn y Cyngor daeth hefyd yn Ddirprwy Gofrestrydd Arolygol – felly mae ar gael ar gyfer priodasau!

Yn wreiddiol o Dreherbert, ond bellach yn byw yn Nhreorci gyda’i bartner, mae Tom wedi’i wreiddio yn ei gymuned leol. Mae’n mwynhau canu gydag Aelwyd Cwm Rhondda a rhedeg gyda Rhedwyr Cwm Rhondda yn wythnosol. Mae Tom yn blach o fod o’r Rhondda ac yn gyffrous iawn am fod yn rhan o sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn lleol ac mewn cymunedau cyfagos.

Thomas Tudor Jones
Jamie Smith

Jamie Smith

Cafodd Jamie ei eni a’i fagu yng Nghwm Afan a’r cyffiniau ac mae wedi gweithio mewn rolau sy’n ymwneud ag arloesi ac ymchwil ers dros 20 mlynedd, ar draws llywodraeth leol, llywodraeth ganolog a’r trydydd sector.  Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Arloesi a Phartneriaeth yn Hafod ers 2018, lle mae wedi datblygu ei ddiddordebau mewn cynnwys y gymuned, dylunio gwasanaethau a dadansoddi data. Sefydlodd Jamie Side-by-Side, uned arloesi cymdeithasol ac ymgysylltu cymunedol Hafod, yn 2021. Side-by-Side oedd yr uned gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae wedi denu cyllid sylweddol a diddordeb gan bartneriaid allanol, yn ogystal â sicrhau buddion i gymunedau.

Cyn ei yrfa yn y sectorau hyn, cwblhaodd Jamie PhD mewn gwyddorau daear, a daniodd ei angerdd am newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Stephen Burt

Mae Steve yn gyfrifydd siartredig a gweithiwr llywodraethu proffesiynol. Mae wedi byw a gweithio yn Ne Cymru ar hyd ei oes, gan gynnwys gwasanaethu fel MD yn Rocialle, Aberpennar, mae Steve bellach yn gwasanaethu ar nifer o fyrddau ac yn darparu hyfforddiant a mentora drwy raglen AGP Llywodraeth Cymru. Mae Steve wedi ymrwymo i weld ail-gynhyrchu’r Cymoedd drwy gefnogi entrepreneuriaeth ac mae’n cydnabod y cyfle rhagorol y mae’r gronfa’n ei gynnig. Mae Steve a’i wraig wedi symud i gwch cul yn ddiweddar ond mae’n ymwneud yn barhaus â’r ardal drwy gefnogaeth i nifer o eglwysi a phrosiectau elusennol.

Stephen Burt
Liam Hull

Liam Hull

Mae Liam yn gyfrifydd siartredig sydd â dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys cynllunio strategol, rheolaeth ariannol a llywodraethu corfforaethol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Pennaeth Perfformiad Corfforaethol yn Chwaraeon Cymru, corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o rolau cyllid ac archwilio o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae hefyd yn Drysorydd Anrhydeddus Canolfannau Bywyd Awtistiaeth, cwmni buddiannau cymunedol sy’n darparu awtistiaeth i oedolion ifanc, mynediad i wasanaethau dydd sy’n ysgogol, yn heriol ac yn ystyrlon.

Mae Liam wedi byw yn y Rhondda ar hyd ei oes ac mae’n credu’n gryf mewn datblygu cymunedol cynaliadwy. Mae’n falch o ymuno â Bwrdd sefydliad sydd wedi cael effaith mor gadarnhaol ar gymunedau lleol ac mae’n gyffrous i ychwanegu ei arbenigedd a’i syniadau newydd at lwyddiant parhaus y gronfa.

Martin Veale

Mae Martin yn gyfrifydd ac yn archwiliwr cymwysedig, yn arbenigwr rheoli risg a llywodraethu. Mae Martin hefyd yn aelod profiadol o’r Bwrdd ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Fwrdd a Chadeirydd archwilio Chwaraeon Cymru ac yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Ar ôl byw yng Nghymoedd De Cymru ar hyd ei oes, mae Martin yn cydnabod y cyfle eithriadol y mae’r cyllid sydd ar gael drwy’r cynllun hwn yn ei gynrychioli ac mae am sicrhau bod yr arian yn gwneud argraff hirdymor ar yr ardal – gan gyflawni er lles genedlaethau’r dyfodol.

Martin Veale
Emma Shepherd

Emma Shepherd

Mae gan Emma dros ugain mlynedd o brofiad yn y trydydd sector, yn benodol yn gweithio gyda chymunedau. Ar hyn o bryd hi yw’r Pennaeth Cenedlaethol – Cymru dros ymgyrch Plant Mewn Angen y BBC. A hithau’n angerddol dros bobl a phŵer cymunedol, mae hi’n awyddus i weld pobl leol yn defnyddio eu gwybodaeth unigryw a’u cysylltiadau i benderfynu sut y gellid defnyddio’r gronfa i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol.

Cafodd Emma ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, ac mae hi bellach yn byw ger Pontypridd gyda’i thri phlentyn, ei gŵr a chi o’r enw Olive. Y tu allan i’w gwaith, mae hi’n chwarae rhan amlwg ym mywyd y gymuned – mae’n un o ymddiriedolwyr ei neuadd bentref leol, mae hi’n trefnu Cinio Mawr i ddod â phobl at ei gilydd, a hi oedd un o aelodau gwreiddiol y prosiect garddio cymunedol.

Michelle Coburn-Hughes

Mae Michelle wedi cael ei chyflogi gan RCT Children’s and Education Service ers 1996, sydd bellach yn cael ei chyflogi fel rheolwr busnes a chyfleusterau mewn ysgol uwchradd yng Nglyn Rhedynog. Mae Michelle hefyd yn gyfarwyddwr rheoli a sefydlu the Fern Partnership, elusen sydd wedi ennill sawl gwobr a gwarant cwmni cyfyngedig, a ddewiswyd ym mis Gorffennaf 2017 fel sefydliad ‘ braenaru ‘ ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cymru o dan dasglu’r Cymoedd Fenter. Mae’r elusen yn strategol ac yn flaengar o ran y dyfodol, datblygu cymunedol a’r dull cydgysylltiedig o weithio mewn partneriaeth gymunedol. Fel un sy’n byw ac yn broffesiynol yng Nghymoedd y Rhondda Mae Michelle yn falch o fod yn rhan o gymunedau sy’n ffynnu, yn datblygu ac yn ffynnu mewn amgylcheddau sy’n gallu bod yn heriol ac weithiau’n eithriadol o anodd.

Michelle Coburn-Hughes
Dr Jack James

Dr Jack James

Ar ôl cael ei godi ar fân-ddaliadau yng ngorllewin Cymru, derbyniodd Jack radd bioleg forol a PhD Prifysgol Abertawe cyn dechrau ei yrfa broffesiynol ym Madagascar fel rheolwr fferm bysgod. Yn dilyn hyn fe’i penodwyd yn bennaeth R & D ar gyfer cwmni dyframaethu ym Malta, cyn dychwelyd i dde Cymru ar ddiwedd 2013, i Aberdâr. Yma ymgartrefodd gyda’i deulu, gan sefydlu busnes dyframaethu R & D yn Hirwaun yn 2014, gan gyflogi 13 o bobl erbyn hyn ac ehangu’n sylweddol drwy 2020/21 yn lleol ac i Singapore. Mae’r busnes yn masnachu yn fyd-eang ond mae wedi’i wreiddio’n gadarn iawn yng Nghwm Cynon, ac mae gan Jack ymrwymiad personol a phroffesiynol cryf i wella’r gymuned y mae’n byw ac yn gweithio ynddi. Mae’n byw yn Llwydcoed gyda’i wraig (o Aberdâr) a dau o blant ifanc.

Aelodaublaenorol o’r Bwrdd

Victoria Bond

Victoria Bond

Mae Victoria yn rheolwr gwastraff Siartredig, ac mae ganddi 17 mlynedd o brofiad, sy’n arbenigo mewn rheoli gwastraff modern ac ailgylchu. Yn wreiddiol o Hirwaun, mae ei gyrfa wedi mynd â hi dros y byd i gyd, gan gynnwys Awstralia a’r dwyrain canol, lle bu’n gweithio i ymgyngoriaethau peirianneg ac amgylcheddol, a bu’n aelod o’r Bwrdd ar gyfer awdurdod gwastraff Llywodraeth Gorllewin Awstralia.

Cyn hyn, roedd Victoria yn gynghorydd cymuned ar gyfer Hirwaun a Phenderyn, roedd yn gyd-sylfaenydd llwybrau ceffylau Briars RhCT ac yn aelod o Action for Hirwaun, gan helpu i gyflawni statws gwyrdd pentref ar gyfer y Gloucesters.

Erbyn hyn, mae’n rhedeg busnes o’r egin sy’n gwerthu cynnyrch fferm i’r cyhoedd. Mae Victoria yn angerddol am gymunedau’r Cymoedd ac yn dod â rhai o’i phrofiadau i helpu i adfywio pentrefi a threfi lleol.

Bob Chapman

Bu Bob Chapman yn bresenoldeb allweddol yng Nghwm Afan ers sawl blwyddyn, gan ddatblygu gwasanaethau arloesol, gan gynnwys Canolfan Cyngor ar Bopeth Cwm Afan Uchaf – sef y Ganolfan Cyngor ar Bopeth symudol gyntaf yng Nghymru, sy’n gwasanaethu chwe chymuned yn y cwm. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol Cymru. Bu’n gwasanaethu ar gyrff cenedlaethol – megis bwrdd Shelter Cymru – yn ogystal â sefydliadau lleol sy’n chwarae rhan hollbwysig ym mywyd y gymuned, megis Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Croeserw a Chyfeillion Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan.

Bob Chapman
Marc Phillips
Chair

Marc Phillips

Mae Marc Phillips yn ddyfarnwr grantiau profiadol sydd â 40 o flynyddoedd o brofiad o weithio yn y sector gwirfoddol a’r sector elusennol. Ymddeolodd o’i swydd fel Pennaeth Polisi BBC Plant mewn Angen yn ddiweddar a bu’n Brif Weithredwr ar yr elusen Tenovus a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Dyfed.

Treuliodd Marc, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, nifer o flynyddoedd yn byw yn Aberdâr, Aberpennar a Dowlais.

Glenn Bowen

Bu Glenn Bowen yn gweithio ym maes datbygu cwmnïau cydweithredol ers dros 18 mlynedd ac mae wedi helpu i sefydlu llawer o gwmnïau cydweithredol cymunedol a chwmnïau cydweithredol gweithwyr a chonsortia cydweithredola. Mae’n defnyddio ei hyfforddiant busnes a’i ddealltwriaeth fasnachol er mwyn helpu pobl i ddatblygu syniadau entrepreneuraidd yn fusnesau cydweithredol llwyddiannus. Glenn yw Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Cymru ac ef oedd cydgysylltydd Prosiect Gweithredu’r Economi Leol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bu Glenn yn byw yn Nhynewddd a Threherbert drwy gydol ei oes ac mae pob aelod o’i deulu yn byw yn y ward ac mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at fod yn rhan o sefydliad a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan rymuso ei gymuned ef a chymunedau cyfagos i gynnal eu hunain er mwyn datblygu’n gynaliadwy.

Glenn Bowen
Mair Gwynant

Mair Gwynant

Mae Mair Gwynant yn gyfrifydd siartredig sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Ymhlith ei meysydd arbenigol mae rheolaeth ariannol, llywodraethu, cyllido, rheoli grantiau, datblygu busnes a chynllunio strategol.

Cyn ymuno â ni bu Mair yn dal uwch swyddi o fewn Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Canolfan Gydweithredol Cymru, Chwarae Teg a Deloitte Touche LLP. Bu’n gweithio gyda llawer o sefydliadau yn ardal Pen-y-Cymoedd, gan ddatblygu prosiectau cymunedol cynaliadwy a gweithgarwch mentrau cymdeithasol. Mae Mair yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at y newid cadarnhaol y gall y gronfa ei wneud yn yr ardal a llywio’r newid hwnnw.

Professor Donna Mead

Mae’r Athro Donna Mead wedi cael gyrfa ddisglair ym maes nyrsio, y byd academaidd a gwasanaeth cyhoeddus – a thrwy gydol yr amser hwn mae wedi cadw cartref y teulu yn ei chymuned enedigol, sef Glyn-nedd. Ar hyn o bryd hi yw Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac mae’n edrych ymlaen at gael y cyfle i ddefnyddio Cronfa Gymunedol Pen-y-Cymoedd i wella cydnerthedd cymunedau yn rhannau uchaf Cwm Nedd, Cwm Afan, Cwm Rhondda a Chwm Cynon.

Professor Donna Mead
Dave Henderson

Dave Henderson

Gadawodd David Henderson yr ysgol bron 50 mlynedd yn ôl heb unrhyw gymwysterau a heb unrhyw syniad pa yrfa y byddai’n ei dilyn yn y dyfodol. Ers hynny mae wedi cael gyrfa ddisglair ym maes addysg a hyfforddiant, gan sefydlu a rhedeg ei gwmnïau hyfforddi ei hun Bu’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau sy’n cael budd o Gronfa Gymunedol Pen-y-Cymoedd ers 35 mlynedd ac mae’n arbennig o awyddus i weld cymunedau lleol yn cymryd yr awenau wrth benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r gronfa yn eu hardaloedd, a’i defnyddio fel catalydd i adfer yr agwedd “gallu gwneud” yr adeiladwyd y Cymoedd Uchaf arni, yn ei farn ef. Mae Dave hefyd yn un un o Gyfarwyddwyr Anweithredol “Too Good to Waste” – sy’n gwmni ailgylchu a leolir yn y Cymoedd.