{"id":4280,"date":"2023-11-07T22:16:41","date_gmt":"2023-11-07T22:16:41","guid":{"rendered":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/dyfarniad-o-19200-yn-cefnogi-cam-nesaf-turning-the-wheel\/"},"modified":"2023-11-07T22:16:41","modified_gmt":"2023-11-07T22:16:41","slug":"dyfarniad-o-19200-yn-cefnogi-cam-nesaf-turning-the-wheel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/dyfarniad-o-19200-yn-cefnogi-cam-nesaf-turning-the-wheel\/","title":{"rendered":"Dyfarniad o \u00a319,200 yn cefnogi cam nesaf Turning the Wheel"},"content":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l yn 2022 fe wnaethon ni ariannu Kieran, gweithiwr creadigol lleol gyda grant Cronfa Meicro bach pan gafodd y syniad o greu sioe gerdd<\/p>\n<p>Caniataodd y cyllid iddo ddatblygu&#8217;r sgript, y gerddoriaeth, recriwtio actorion a llwyfannu perfformiad arddangos yn y Parc a&#8217;r D\u00e2r. Bwriad y cyfnod hwn yw mynd \u00e2\u2019r sioe i gynhyrchiad llawn ar gyfer tri pherfformiad o fewn prif awditoriwm y theatr leol, y Parc a\u2019r D\u00e2r, Treorci.<\/p>\n<p>Trwy barhau i weithio gyda busnesau lleol byddant yn llwyfannu perfformiadau untro gan ddefnyddio cerddorion lleol er mwyn hyrwyddo\u2019r sioe a chynyddu niferoedd y gynulleidfa. Nod hirdymor hyn yw adeiladu ar y bwrlwm a gr\u00ebwyd ganddynt yn ystod cam cyntaf y datblygiad a gwahodd cynhyrchwyr o\u2019r tu allan i\u2019r ardal i mewn i weld y sioe gyda\u2019r bwriad o roi bywyd arall iddi drwy Gymru a thu hwnt fel cynhyrchiad teithiol masnachol.<\/p>\n<p>\u201cMae &#8216;Turning the Wheel&#8217; yn sioe theatr gerdd wreiddiol a gafodd ei dechrau yn y gymuned, a&#8217;i chreu yng Nghwm Rhondda Uchaf, gan bobl y Rhondda Uchaf ac ar eu cyfer, ac sydd wedi cael ei thyfu a&#8217;i datblygu ers hynny yn y Rhondda Uchaf. Bydd y cyllid hwn gan Ben y Cymoedd yn ein helpu i daflu goleuni cadarnhaol ar ein treftadaeth, iaith, diwylliant, cymuned a hanes. Diolch yn fawr iawn PyC\u201d \u2013 <strong>Kieran Bailey<\/strong><\/p>\n<p>\u201cCafodd y gynulleidfa eu swyno\u2019n llwyr, nid yn unig gan ansawdd y cynhyrchiad, ond hefyd gan broffesiynoldeb y cerddorion ac aelodau\u2019r cast ac yn haeddiannol felly, fe enillon nhw gymeradwyaeth sefydlog. Rhaid nodi\u2019r effaith gadarnhaol y mae\u2019r cynyrchiadau hyn yn ei chael ar yr Iaith Gymraeg, lle roedd Kieran yn defnyddio darpariaeth ddwyieithog yn llwyr.\u201d &#8211; <strong>Y Cynghorydd Bob Harris Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau<\/strong><\/p>\n<p>\u201cErs cenedlaethau, dysgwyd hanes eu cyndeidiau glofaol i blant y Rhondda, a sut y gwnaeth Rhondda helpu i roi Cymru a Phrydain Fawr ar y map. Boed hynny mewn ystafell ddosbarth trwy werslyfrau, teithiau i\u2019r Parc Treftadaeth a Phwll Mawr i\u2019r gwythiennau 4 troedfedd, neu i Sain Ffagan i brofi sut beth fyddai bywyd mewn hen dai teras; bydd cenedlaethau o&#8217;n blaenau a chenedlaethau i ddod yn parhau i ddysgu sut beth oedd realiti. Ond, ychydig iawn fydd wedi profi\u2019r hanes hwn yn dod yn fyw trwy g\u00e2n a pherfformiad.<\/p>\n<p>Cefais y pleser o fynychu&#8217;r perfformiad cyntaf, a hyd yn hyn, yr unig berfformiad o sioe gerdd &#8220;Turning the Wheel&#8221; yn y Parc a&#8217;r D\u00e2r. Nid wyf erioed wedi profi na gweld cynrychiolaeth mor gywir a difyr o&#8217;n hanes pwysig. Ynghyd \u00e2\u2019r gynulleidfa o aelodau\u2019r gymuned leol, hyd yn oed gyda\u2019r wybodaeth a gasglwyd dros y blynyddoedd a fu, roedd y perfformiad yn gyfareddol, ac yn wirioneddol gipio&#8217;r gwaed, y chwys, y dagrau, y llawenydd, y dewrder, y torcalon, a\u2019r balchder a deimlwyd yn ystod y chwyldro diwydiannol. Fe wnaethon ni chwerthin, crio, a dysgu yn ystod y perfformiad byr.\u201d &#8211; <strong>Buffy Williams Aelod o&#8217;r Senedd dros y Rhondda<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r prosiect hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, CBS RhCT, busnesau lleol a noddwyr. Roeddem am gefnogi a bod yn brif gyllidwr gan ein bod yn credu bod hwn yn gyfle cyffrous i hyrwyddo\u2019r iaith Gymraeg a diwylliant lleol, dileu rhwystrau ac ehangu mynediad i weithgareddau diwylliannol a chefnogi sgiliau creadigol lleol a chyfleoedd cyflogaeth, gan feithrin ac annog pobl greadigol i fyw a gweithio&#8217;n lleol<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l yn 2022 fe wnaethon ni ariannu Kieran, gweithiwr creadigol lleol gyda grant Cronfa Meicro bach pan gafodd y syniad o greu sioe gerdd Caniataodd y cyllid iddo ddatblygu&#8217;r sgript, y gerddoriaeth, recriwtio actorion a llwyfannu perfformiad arddangos yn y Parc a&#8217;r D\u00e2r. Bwriad y cyfnod hwn yw mynd \u00e2\u2019r sioe i gynhyrchiad llawn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4278,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9],"tags":[],"class_list":["post-4280","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4280","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4280"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4280\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4278"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4280"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4280"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4280"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}