{"id":2907,"date":"2020-07-09T11:30:58","date_gmt":"2020-07-09T11:30:58","guid":{"rendered":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/?p=2907"},"modified":"2020-07-09T11:30:58","modified_gmt":"2020-07-09T11:30:58","slug":"mae-cronfa-gymunedol-fferm-wynt-pen-y-cymoedd-yn-falch-o-gyhoeddi-pedwar-dyfarniad-grant-gan-y-gronfa-gweledigaeth-gwerth-cyfanswm-o-139318-ar-draws-cymoedd-nedd-afan-rhondda-a-chynon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/mae-cronfa-gymunedol-fferm-wynt-pen-y-cymoedd-yn-falch-o-gyhoeddi-pedwar-dyfarniad-grant-gan-y-gronfa-gweledigaeth-gwerth-cyfanswm-o-139318-ar-draws-cymoedd-nedd-afan-rhondda-a-chynon\/","title":{"rendered":"Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o gyhoeddi pedwar dyfarniad grant gan y Gronfa Gweledigaeth gwerth cyfanswm o \u00a3139,318 ar draws Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon."},"content":{"rendered":"<p><span lang=\"cy-GB\">Mae grantiau&#8217;r Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi gweithgareddau sy&#8217;n cyflwyno amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol &#8211; gall busnesau, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyd ymgeisio. Mae angen i gynigion fod yn eofn, uchelgeisiol ac ychydig bach yn anghyffredin &#8211; ac mae&#8217;n rhaid eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros yr hir dymor. Mae&#8217;r prosiectau diweddaraf sy&#8217;n cael eu cefnogi&#8217;n amrywio o \u0175yl beicio mynydd i brosiect gwella tiroedd Neuadd Eglwys. Wrth gwrs, mae amserlenni&#8217;r holl brosiectau hyn wedi eu heffeithio gan COVID 19 ac felly rydym yn dymuno&#8217;r gorau iddynt dros y misoedd i ddod wrth i ni i gyd ddod o hyd i normal newydd, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau&#8217;r holl brosiectau hyn. <\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Mae&#8217;r prosiect <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Afon Cynon, Afon i Bawb<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> yng Nghwm Cynon uchaf yn cael ei arwain gan <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\">. Bydd y dyfarniad o <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>\u00a349,252<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> yn galluogi&#8217;r sefydliad i ennyn diddordeb y cymunedau lleol sy&#8217;n byw ar hyd ac yn agos i ddyfroedd gogleddol Afon Cynon (a&#8217;i llednentydd fel Afon D\u00e2r) yng ngwerth yr afon. Bydd amrywiaeth o fuddion a deilliannau, ar gyfer cymunedau a chyfranogwyr lleol ac ar gyfer bioamrywiaeth a&#8217;r amgylchedd. Bydd Swyddog Prosiect yn sefydlu Gr\u0175p Ceidwaid Afon Cymunedol ac yn gweithio i godi proffil yr afon er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o&#8217;i phwysigrwydd i ecosystemau lleol a&#8217;r rhywogaethau niferus y mae&#8217;n gartref iddynt, ac er mwyn iddi gael ei defnyddio&#8217;n fwy ar gyfer hamdden ac ymlacio. Dros y tymor hwy maent yn gobeithio y bydd gan y gymuned fwy o deimlad o &#8216;berchnogaeth&#8217; arni ac y byddant yn cymryd stiwardiaeth ar ddalgylch yr afon. <\/span><\/p>\n<p><a name=\"_GoBack\"><\/a> <span lang=\"cy-GB\">Ymysg y gweithgareddau a buddion fydd: Ymgyrchoedd codi sbwriel a glanhau&#8217;r afon ac ymwybyddiaeth o dipio anghyfreithlon sy&#8217;n cynnwys o leiaf 250 o bobl \/ gweithdai gydag ysgolion cynradd lleol &#8211; digwyddiadau ennyn diddordeb yn yr afon, prosiectau llyswennod, gweithdai a gweithgareddau. Byddant yn cydweithio \u00e2 <\/span><span style=\"color: #000000;\"><span lang=\"cy-GB\">Salmon and Trout Cymru i hyfforddi&#8217;r gymuned leol ar fonitro pryfed afon.<\/span><\/span> <span lang=\"cy-GB\">Bydd rhaglen o ddigwyddiadau&#8217;n cael ei chynnal i wella ymgysylltu cymunedol a byddant yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau i wirfoddolwyr lleol. Bydd y prosiect yn hybu&#8217;r afon fel cyrchfan bysgota i ymwelwyr ac yn gwella ansawdd yr afon a&#8217;i gwerth esthetig i&#8217;r ardal.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Dechreuodd gwaith adnewyddu ar Neuadd <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Eglwys Sant Si\u00f4r, Cwmparc<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\">, dros 5 mlynedd yn \u00f4l gyda nenfwd newydd a newid rhai ffenestri er mwyn gwneud y neuadd yn gynhesach a llawer mwy cost-effeithiol i&#8217;w gwresogi. Lleolir y fynedfa i&#8217;r eglwys ar fryn serth iawn, sy&#8217;n gwneud mynediad yn anodd iawn i&#8217;r rhai na allant gerdded yn bell. Mae&#8217;r rhai sy&#8217;n camu allan o gerbyd y tu allan i&#8217;r fynedfa yn gorfod gwneud hynny ar lethr serth. Mae&#8217;r neuadd eglwys boblogaidd wedi&#8217;i lleoli y tu \u00f4l i&#8217;r eglwys, gan olygu bod angen cerdded trwy&#8217;r tiroedd i&#8217;w chyrraedd. Llwybr pafin yw hwn ond nid yw&#8217;n wastad, ac er bod mynedfa ar ochr yr adeilad sy&#8217;n agor ar stryd fach, cafodd hwn ei gau flynyddoedd yn \u00f4l oherwydd pryderon iechyd a diogelwch. Bydd y grant o <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>\u00a320,000<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> gan y Gronfa Gweledigaeth yn cyd-fynd \u00e2&#8217;r swm o bron \u00a340,000 y maent wedi&#8217;i godi i: adfer y rhodfa flaenorol i wella mynediad i Festri&#8217;r Eglwys a Neuadd yr Eglwys \/ sefydlu man parcio a throi bach ger y Neuadd, gan ddarparu nifer bach o leoedd parcio i&#8217;r anabl a digon o le i gerbydau droi o gwmpas ar y safle, ac ailadeiladu&#8217;r grisiau gyda landins gwell a grisiau a chanllawiau priodol.<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Bydd grant o <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>\u00a354,000<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> i brosiect partneriaeth rhwng <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Cyngor Cymuned Ystradfellte a Phontneddfechan yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Tref Glyn-nedd a Chyngor Cymuned Penderyn<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> yn cefnogi <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Waterfall Country Futures<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\">, astudiaeth dichonolrwydd i ymchwilio ac adnabod problemau a chyfleoedd, a dyfeisio a datblygu cynllun strategol ac opsiynau cyflwyno. Mae ardal y sgydau yng nghymoedd Nedd, Cynon a Rhondda uchaf yn dirwedd neilltuol a phrydferth, sydd \u00e2 llawer o botensial i ddarparu buddion twristiaeth cadarnhaol ar gyfer ei chymunedau a busnesau. Mae&#8217;n ardal boblogaidd iawn i ymwelwyr sydd \u00e2 bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol a threftadaeth ddiwylliannol gyfareddol. Er bod yr ardal yn cynnwys nifer mawr o sgydau atyniadol, yr ardal o gwmpas Pontneddfechan yw&#8217;r un sy&#8217;n denu&#8217;r nifer uchaf o ymwelwyr ar hyn o bryd &#8211; ac sy&#8217;n cael ei heffeithio fwyaf. Mae&#8217;r sgydau mewn cymunedau eraill gerllaw hefyd yn atyniadol ac yn werth ymweld \u00e2 nhw, ond maent yn gymharol anhysbys ac nid ydynt yn cael eu hybu. Bydd y prosiect hwn yn dod o hyd i ffordd i gymunedau gymryd rhan a mynnu rheolaeth ar faterion megis rheoli ymwelwyr, datblygu gwirfoddolwyr a datblygu economaidd seiliedig ar dwristiaeth &#8211; y prosiect hwn yw&#8217;r cam cyntaf. <\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Bydd grant o <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>\u00a316,066<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> i <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Sisters of Send<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\"> yn cefnogi <\/span><span lang=\"cy-GB\"><b>Sisters of Send Weekend<\/b><\/span><span lang=\"cy-GB\">, sydd i&#8217;w leoli yn Bryn Bettws Lodge, Ton-mawr. A hwythau&#8217;n gweithio&#8217;n galed yn unigol ers nifer o flynyddoedd i annog mwy o fenywod i ymwneud \u00e2 beicio mynydd, mae&#8217;r 3 menyw y tu \u00f4l i&#8217;r \u0175yl hon yn cronni eu harbenigedd i gyflwyno g\u0175yl beicio mynydd 2 ddiwrnod newydd i fenywod. Bydd yr \u0175yl, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer haf 2020, bellach yn digwydd ym mis Mai 2021 oherwydd cyfyngiadau&#8217;r Coronafeirws. Y bwriad yw y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol. Er iddi gael ei hanelu at feicwyr benywaidd, bydd yr \u0175yl yn croesawu&#8217;r teulu cyfan i gymryd rhan a chael hwyl. Bydd y grant yn cefnogi&#8217;r digwyddiad cychwynnol a&#8217;r cynllunio paratoadol. Bydd yn benwythnos llawn dop o hyfforddiant a chyfarwyddyd arbenigol gan feicwyr proffesiynol nodedig, bag aer ar gyfer ymarfer neidio, ioga, ras 4X gwisg ffansi, Crws\u00e2d Llwybr MTB, defnydd o&#8217;r llwybrau beicio i gyfranogwyr yr \u0175yl yn unig, adloniant i&#8217;r teulu a llawer mwy. Bydd pentref y digwyddiad yn cynnwys enwau brand mawr y diwydiant ac yn: <\/span><\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Hybu beicio mynydd i fenywod<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Eirioli dros feicio mynydd fel camp hygyrch, cynhwysol a llawn mwynhad sy&#8217;n cefnogi llesiant corfforol a meddyliol <\/span><\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Darparu llwyfan a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn i fenywod sy&#8217;n feicwyr proffesiynol a chwmn\u00efau a arweinir gan fenywod o fewn y gamp arddangos eu sgiliau a brandiau. <\/span><\/p>\n<p><span lang=\"cy-GB\">Bydd y digwyddiad yn defnyddio gwasanaethau busnesau lleol yn ogystal ag arddangos Cwm Afan fel cyrchfan dwristiaeth o fri rhyngwladol. <\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae grantiau&#8217;r Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi gweithgareddau sy&#8217;n cyflwyno amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol &#8211; gall busnesau, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyd ymgeisio. Mae angen i gynigion fod yn eofn, uchelgeisiol ac ychydig bach yn anghyffredin &#8211; ac mae&#8217;n rhaid eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros yr hir dymor. Mae&#8217;r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2905,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9],"tags":[],"class_list":["post-2907","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2907","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2907"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2907\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2908,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2907\/revisions\/2908"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2905"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2907"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2907"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/penycymoeddcic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2907"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}