Panel Dinasyddion y Gronfa Gymunedol
Mae Panel o bobl leol yn cael ei sefydlu i’n helpu tracio newidiadau yn yr ardal sy’n elwa o Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
Dros y blynyddoedd i ddod, byddwn yn holi aelodau’r Panel am sut mae pethau’n mynd yn eu hardal leol a beth sy’n newid. Byddwn eisiau gwybod hefyd pa newidiadau yr hoffent eu gweld, a pha bethau fyddai’n gwneud ein cymunedau’n lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio. Caiff y Panel ei weinyddu gan ein partner, Wavehill: ymchwil gymdeithasol ac economaidd.
Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth.